Mae Julia Jones, Athro Cadwraeth yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, wedi'i phenodi'n aelod annibynnol o Gydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) llywodraeth y Deyrnas Unedig, sef ymgynghorydd statudol y Deyrnas Unedig ar gadwraeth natur.
Mae'r JNCC yn darparu cefnogaeth effeithiol i lywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Llywodraethau Datganoledig ar gyfer eu hanghenion tystiolaeth a'u polis茂au yn ymwneud 芒 chadwraeth ac adferiad natur ledled y Deyrnas Unedig, ein Tiriogaethau Tramor a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron, ac yn rhyngwladol.
Mae gan Julia brofiad helaeth mewn polisi ac ymchwil amgylcheddol. Mae ei rolau presennol yn cynnwys ymddiriedolwr WWF-UK ac aelod o fwrdd ymgynghorol y fenter Sounds Right. Mae hi wedi gwasanaethu鈥檔 flaenorol ar bwyllgor Cymru鈥檙 RSPB ac fel Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cymru ar Ynni Carbon Isel a鈥檙 Amgylchedd.
Dywed Julia, 鈥淩wyf wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi i鈥檙 JNCC. Ni allai eu cenhadaeth fod yn bwysicach. Mae mynd i'r afael 芒'r argyfwng natur yn ei gwneud yn ofynnol i lunwyr polisi gael mynediad at y cyngor a'r dystiolaeth wyddonol orau bosibl. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r t卯m gwych yn JNCC a'r gymuned gadwraeth ledled y Deyrnas Unedig i helpu i gyflawni hyn.鈥