Beth yw Clirio?
Mae Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ yn cynnig cyfle gwerthfawr i amrywiaeth eang o unigolion i ddod o hyd i'r cwrs prifysgol perffaith ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, yn dechrau ym mis Medi 2025.
Pryd mae Clirio yn 2025?
Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf 2025. Gallwch wneud cais trwy UCAS i astudio cwrs gradd israddedig ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ hyd at ddydd Llun, 30 Mehefin, 18:00.
Pwy All Wneud Cais Drwy Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥?
- Ymgeiswyr heb gynigion cyfredol: Gall unrhyw un sydd wedi gwneud cais israddedig UCAS ac nad oes ganddynt unrhyw gynigion ar hyn o bryd gan brifysgol wneud cais i Brifysgol Ðãɫֱ²¥ drwy Clirio.
- Ymgeiswyr hwyr: Gall unigolion sydd heb wneud unrhyw geisiadau i brifysgol ar gyfer mis Medi eleni wneud cais i Brifysgol Ðãɫֱ²¥ yn uniongyrchol drwy Clirio.
Pam Gwneud Cais i Brifysgol Ðãɫֱ²¥ Drwy Clirio?
Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais am gwrs ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ drwy Clirio am sawl rheswm:
- Os ar ddiwrnod y canlyniadau na wnaethoch chi gyflawni'r graddau gofynnol ar gyfer eich dewis cadarn neu yswiriant, gallai Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ gynnig eich cyfle nesaf.
- Hyd yn oed os gwnaethoch chi fodloni gofynion eich dewisiadau cychwynnol ond wedi penderfynu nad dyma'r llwybr cywir i chi, gallwch 'ryddhau eich hun i Clirio' drwy UCAS ac archwilio'r opsiynau sydd ar gael ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥.
- Os nad ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto ar gyfer mis Medi eleni, mae Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ yn cynnig llwybr i ddechrau eich astudiaethau yr hydref hwn.
- Gall myfyrwyr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg neu'r rheiny sy'n newid gyrfa ganfod bod Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ yn ffordd effeithlon o gyflawni cwrs academaidd mewn amgylchedd cefnogol.
- Os yw amgylchiadau annisgwyl wedi arwain at ystyried mynd i'r brifysgol yn hwyrach yn y cylch ymgeisio, gall Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ gynnig llwybr i addysg uwch.
Cynllunio'ch Opsiynau Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥
Hyd yn oed os ydych chi'n disgwyl am eich canlyniadau, dyma'r amser perffaith i ddechrau meddwl am eich opsiynau Clirio. Os nad ydych chi wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto neu'n ailystyried eich dewisiadau, dechreuwch archwilio ein meysydd pwnc, cymerwch olwg manylach ar ein cyrsiau a chofrestrwch eich diddordeb mewn Clirio ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥.
Gwylio - Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio
Mynegi diddordeb ymgeisio drwy Clirio 2025
Pam dewis Prifysgol Ðãɫֱ²¥?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!