Ystyr Bywyd (a Geiriau Eraill): Sut Mae鈥檙 Ymennydd yn Dysgu ac yn Storio Cysyniadau?
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Mae鈥檙 ymennydd yn storio cyfoeth o wybodaeth am ystyr pethau, gan gynnwys gwrthrychau (e.e. beth yw pwrpas bwrdd?), pobl (sut mae heddwas yn debygol o ymddwyn?) a geiriau (beth yw ystyr bywyd?). Mae ystyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac os collwn ein gafael ar ystyr (e.e., oherwydd dementia) mae effeithiau dinistriol i hynny. Ers Socrates, mae ysgolheigion wedi pendroni yngl欧n 芒 sut rydyn ni'n dysgu ystyr a heddiw mae niwrowyddonwyr yn mynd i'r afael 芒 sut mae'n cael ei gynrychioli yn yr ymennydd. Ymunwch 芒 gweminar Prifysgol 秀色直播 i ddysgu am y ffyrdd y mae gwyddoniaeth wybyddol a niwroseicoleg wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o agwedd hynod ddiddorol ar y meddwl dynol.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno 芒 thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu 芒 ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn 么l neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.
Siaradwr
Dr Tirso RJ Gonzalez Alam
Thema gyffredinol gwaith Tirso yw ceisio deall sut mae'r rhwydweithiau mawr sydd i'w cael yn y cortecs dynol wedi'u trefnu, a sut mae'r drefniadaeth hon yn arwain at ymddygiad cymhleth, megis deall ystyr. Mae ei ymchwil diweddar wedi canolbwyntio ar archwilio sut rydym yn storio gwybodaeth gysyniadol a semantig yn y cof, a sut rydym yn adalw agweddau perthnasol ar y wybodaeth honno i arwain ein hymddygiad mewn cyd-destun neu nod penodol. Mae Tirso yn archwilio'r materion hyn o safbwynt y Fframwaith Gwybyddiaeth Semantig Reoledig (CSC) a gwahaniaethau hemisfferig gan ddefnyddio offer fel fMRI (cyflwr gorffwys, seiliedig ar dasgau a DTI), TMS, a pharadeimau ymddygiadol.