Yn y cyngerdd mawreddog hwn, bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Ðãɫֱ²¥ yn ymuno â Chantorion Menai, Undeb Gorawl Cymry Lerpwl a Chôr Cadeirlan Ðãɫֱ²¥, y cyfan dan arweiniad Gwyn L. Williams, yn Neuadd Pritchard-Jones, Ðãɫֱ²¥.
Breuddwyd Gerontius yw un o gyfansoddiadau mwyaf dwys a grymus Edward Elgar. Mae’r gwaith wedi’i seilio ar farddoniaeth y Cardinal John Henry Newman, yn dilyn taith dyn ar ei wely angau gerbron Duw. Cyfansoddwyd y gwaith yn 1900, ac ers hynny, perfformiwyd campwaith Elgar mewn amryw o wledydd ar draws y byd.
Cyn y cyngerdd, bydd Syr Terry Waite, yr awdur adnabyddus a'r ymgyrchydd hawliau dynol yn sgwrsio â Chadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones, am rym cerddoriaeth yn ei fywyd.
Cafodd Syr Terry Waite ei gipio yn wystl yn Beirut yn 1987 wrth geisio sicrhau rhyddhau gwystlon yn Lebanon, a threuliodd bron i bum mlynedd mewn caethiwed. Ar ôl ei ryddhau, daeth yn eiriolwr dros heddwch a chyd-sefydlodd Hostage International i gefnogi dioddefwyr gwystlon a'u teuluoedd. Mae Breuddwyd Gerontiusyn golygu llawer i Syr Terry Waite, gan mai dyma oedd y darn cerddoriaeth cyntaf a glywodd wedi pum mlynedd yn wystl.
Meddai Cadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones:
“Dyma gyfle gwych i glywed perfformiad o waith mawreddog Elgar gan feistri yn eu crefft, yn cloi'r flwyddyn addysgol yma ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥. Mi fydd hi'n fraint o'r mwyaf cael sgwrsio gyda Syr Terry Waite am arwyddocâd arbennig y gwaith hwn a'r effaith a gafodd arno yn ystod cyfnod anodd a thywyll yn ei hanes. Mae cerddoriaeth Elgar wedi bod yn ffynhonnell o gysur ac ysbrydoliaeth iddo drwy gydol ei fywyd, ag os oes gennych docyn i'r cyngerdd, byddwn yn sicr yn eich annog i fanteisio ar y cyfle unigryw hwn i ymuno gyda Syr Terry a minnau. Mae'n argoeli i fod yn noson i'w chofio.'
Tocynnau:&²Ô²ú²õ±è;£25&²Ô²ú²õ±è;archebwch ar-lein yma
Mae tocyn y cyngerdd yn cynnwys mynediad i'r sgwrs gyda Syr Terry Waite yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad Prifysgol Ðãɫֱ²¥ am 5.45-6.30yh.