Prifysgol Ðãɫֱ²¥ yn y safle cyntaf yng Nghymru ac yn 15fed yn y Deyrnas UnedigÂ
Mae Prifysgol Ðãɫֱ²¥ wedi'i henwi fel y brifysgol orau yng Nghymru yn y University Compare Rankings 2026.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn genedlaethol, gan godi 49 lle i'r 15fed safle yn y Deyrnas Unedig, gan ei gosod yn gadarn o fewn 20 prifysgol orau'r wlad. Mae'r gwelliant hwn yn adlewyrchu datblygiadau cadarnhaol ar draws nifer o feysydd o'n profiad myfyrwyr.
Mae’r University Compare Rankings yn seiliedig ar gyfuniad o adolygiadau myfyrwyr wedi eu gwirio a metrigau perfformiad allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys ansawdd cyrsiau, cyflogadwyedd graddedigion, bywyd myfyrwyr a llety.
Safleoedd Prifysgol Ðãɫֱ²¥ 2026:
- Prifysgol Orau yng Nghymru – 1af
- 100 Prifysgol Orau'r Deyrnas Unedig – 15fed
- Llety – 12fed (i fyny 17 lle)
- Ansawdd Cyrsiau – 21ain (i fyny 49 lle)
- Cyflogadwyedd – 28ain (i fyny 46 lle)
- Bywyd Myfyrwyr – 31ain (i fyny 33 lle)
Mae'r safleoedd yn adlewyrchu adborth gan y gymuned fyfyrwyr. Mae University Compare yn defnyddio methodoleg sy'n seiliedig ar adolygiadau, gan gasglu degau o filoedd o adolygiadau gan fyfyrwyr ar draws pedwar maes allweddol. Mae adolygiadau'n cael eu sgorio ar raddfa o 1 i 5, ac mae safleoedd yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio system bwysol - yn debyg i lwyfannau fel TripAdvisor neu Airbnb.
Roedd Prifysgol Ðãɫֱ²¥ hefyd yn 1af yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Meddygaeth a Deintyddiaeth yn y safleoedd pynciau penodol, gan adlewyrchu'r lefel uchaf o foddhad myfyrwyr yn y disgyblaethau hyn.
Dywedodd yr Athro Nicky Callow, Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr), "Mae'r canlyniadau hyn yn amlygu ansawdd ein haddysgu, cryfder ein gwasanaethau cymorth, a'r berthynas gadarnhaol sydd gennym gyda'n myfyrwyr. Rwy'n arbennig o falch o weld y gwelliannau sy'n ymwneud â chyflogadwyedd a bywyd myfyrwyr gan ein bod wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed yn y meysydd hyn ar draws y sefydliad. Fel y mae'r staff yn ymwybodol, cawsom chwe chanmoliaeth yn ein Hadolygiad Gwella Ansawdd allanol diweddar sy'n ymwneud â'n darpariaeth addysgol a phrofiad myfyrwyr, ac mae'n wych hefyd cael ansawdd ein darpariaeth wedi'i gymeradwyo gan ein myfyrwyr."