Llefydd Newid Hinsawdd Seminarau 2024
Dr Iestyn Woolway
Prifysgol 秀色直播
Mae llynnoedd yn sensitif iawn i newidiadau yn yr hinsawdd, gan eu gwneud yn ddangosyddion pwerus o sifftiau amgylcheddol. Bydd y sgwrs hon yn archwilio sut mae ecosystemau llynnoedd yn ymateb i dymheredd cynyddol, patrymau glawiad newidiol, a gweithgareddau dynol. Trwy astudiaethau achos ac ymchwil diweddar, byddwn yn archwilio r么l llynnoedd wrth ganfod arwyddion cynnar o newid hinsawdd, gan amlygu eu pwysigrwydd mewn monitro ecosystemau a gwneud penderfyniadau polisi.
Bydd y seminar yn trafod y wyddoniaeth y tu 么l i sut mae llynnoedd yn ymateb i amodau amgylcheddol newidiol, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr i ymchwilwyr, gwyddonwyr amgylcheddol, a llunwyr polisi. Argymhellir ar gyfer y rhai sydd 芒 diddordeb mewn gwyddoniaeth hinsawdd, ecosystemau d诺r croyw, a monitro amgylcheddol.
Mae Dr Iestyn Woolway, Darllenydd yn Ysgol Gwyddorau Cefnfor Prifysgol 秀色直播, yn arbenigwr ym maes asesu effaith newid hinsawdd, gyda llawer o'i amser yn cael ei neilltuo i astudio newid amgylcheddol byd-eang. Mae wedi gwneud gwaith arloesol wrth gymhwyso technegau o'r radd flaenaf, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial ar gyfer integreiddio arsylwadau maes 芒 data lloeren ac efelychiadau model, i ateb cwestiynau allweddol sy'n ymwneud 芒 newid hinsawdd. Mae ei waith yn rhoi cipolwg ar sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar yr amgylchedd gan ddarparu mapiau ffordd i reolwyr adnoddau sydd 芒'r dasg o ystyried bregusrwydd hinsawdd ecosystemau. PhD o Goleg Prifysgol Llundain. 脭l-ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Reading, a chymrodoriaethau ymchwil yn Iwerddon yn ogystal ag yn Asiantaeth Ofod Ewrop.
Mynychwch y seminar hwn i gael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae llynnoedd yn gweithredu fel systemau rhybuddio cynnar ar gyfer newid hinsawdd, gyda mewnwelediadau allweddol i ymchwilwyr, gwyddonwyr amgylcheddol, a llunwyr polisi sy'n canolbwyntio ar hinsawdd ac iechyd ecosystemau.
Dr Candice Howarth
LSE
Mae gwres eithafol yn destun pryder sylweddol a chynyddol i鈥檙 Deyrnas Unedig ac mae diffyg brys o ran yr ymdrechion i baratoi ar ei gyfer. Profodd y Deyrnas Unedig bum cyfnod o dywydd poeth yn haf 2022 gan dorri鈥檙 record yn Lloegr gyda thymereddau dros 40潞C, gan arwain at bron i 3,000 o farwolaethau. Roedd y gwres eithafol a brofwyd yn ddigwyddiad 1-mewn-1,000 o flynyddoedd, a wnaed 10 gwaith yn fwy tebygol gan newid hinsawdd anthropogenig. Ac eto, gallai tymereddau uchel 2022 fod yn cael eu hystyried fel blwyddyn go arferol erbyn 2060 ac yn flwyddyn oer erbyn 2100. Felly, er bod gwres yn risg gymharol newydd i鈥檙 Deyrnas Unedig, mae鈥檔 dod yn realiti cynyddol amlwg gyda thros 50,000 o farwolaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwres wedi鈥檜 cofnodi rhwng 1988 a 2022. Mae ystyriaeth arall, fwy dybryd, sef ystyried sut mae sicrhau na fydd ymdrechion i ddylunio ymaddasiadau i wres eithafol yn atal yr ymdrechion i liniaru cynnydd pellach mewn allyriadau nwyon t欧 gwydr. Er enghraifft, efallai mai defnyddio technoleg aerdymheru yw鈥檙 unig addasiad ymarferol i gadw pobl yn oer yn y Deyrnas Unedig lle nad yw adeiladau wedi鈥檜 cynllunio i gadw pobl yn oer yn yr haf. Gallai hyn gynyddu'r defnydd o ynni, gan fynd yn groes i ymdrechion i leihau'r defnydd o ynni a thanseilio ymdrechion i gyrraedd targed sero net y Deyrnas Unedig. Felly, mae gwir angen ystyried gweithgarwch ymaddasu a lliniaru fel gweithgarwch cyflenwol a deall sut beth yw canfyddiadau鈥檙 cyhoedd o hyn. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu mewnwelediadau o ddwy astudiaeth achos sy'n archwilio鈥檙 materion hyn. Arolwg o ganfyddiadau鈥檙 cyhoedd o wres eithafol yw鈥檙 cyntaf, a gynhaliwyd ym mis Awst 2023 gyda 1,750 o ymatebwyr o blith sampl gynrychioliadol o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Yn yr astudiaeth achos gyntaf hon, rydym yn archwilio i ba raddau y mae鈥檙 cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o effeithiau gwres eithafol a ph鈥檜n ai y gall dulliau o leihau effeithiau gwres eithafol ddigwydd heb gynyddu allyriadau. Mae鈥檙 ail astudiaeth achos yn ceisio deall sut y gellir cyfuno鈥檙 gweithredu o ran ymaddasu a鈥檙 gweithredu o ran lliniaru er mwyn mabwysiadu dull 鈥榮ero net sy鈥檔 gallu gwrthsefyll yr hinsawdd鈥 i fynd i鈥檙 afael 芒 gwres eithafol yn Llundain. Yn yr ail astudiaeth achos, rydym yn archwilio ymarferoldeb ymgorffori ymaddasiadau i wres eithafol yn rhan o gynllunio ac ymateb i argyfyngau, ac yn ceisio deall profiadau'r rhai sy'n ymateb i argyfyngau yn ystod cyfnodau o wres eithafol.
Mae gan fewnwelediadau鈥檙 ddau broject ymchwil sy鈥檔 archwilio sut i reoli effeithiau gwres eithafol tra鈥檔 lleihau allyriadau nwyon t欧 gwydr botensial sylweddol i lywio polis茂au a phenderfyniadau, i lywio鈥檙 ymateb i argyfyngau, ac i lywio chyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol 芒鈥檙 cyhoedd.
Tony Roberts
Cyfoeth Naturiol Cymru
Safon aur, a gydnabyddir yn fyd-eang, yw Tirlenwi Gwyllt ar gyfer rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy (SMNR) ar dir llwyd a thir o ansawdd isel. Mae'n cyfuno鈥檙 gwaith o ddatblygu clytwaith o gynefinoedd gyda nifer o fuddion o ran gwasanaethau ecosystemau, allgymorth addysgol, ac mae'n cynrychioli model newydd yn y dull cyfannol o adfer natur a chynnig datrysiadau hinsawdd naturiol.
Dewch i ddysgu am y dull gweithredu lleol newydd ar gyfer problemau byd-eang. Bydd y sesiwn yn defnyddio cyfryngau, animeiddiadau a ffilm ddogfen i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd yn trafod cyfuno canlyniadau cynaliadwy lleol gyda chyfuniad unigryw o SMNR diwydiannol cymhwysol, a dull partneriaethol unigryw sy鈥檔 ysgogi allgymorth addysgol a chyhoeddus i greu cynifer o gynefinoedd cynaliadwy 芒 phosibl. Bydd y sesiwn yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda Tony Roberts, sef Sylfaenydd Tirlenwi Gwyllt.
Gall y sawl sydd 芒 diddordeb edrych ar wefan Tirlenwi Gwyllt i gael gwell dealltwriaeth o'r project:
Neal Haddaway
Rydym mewn cyfnod na fu ei debyg o golledion amgylcheddol: mae digwyddiadau eithafol yr hinsawdd, dirywiad y pryfed, datgoedwigo, cofnodion tymheredd, a thanau coedwigoedd i鈥檞 gweld yn amlach fyth yn y newyddion. Mae鈥檙 darogan yngl欧n ag effeithiau datblygu dynol dilyffethair yn enbyd ac maent yn pwyntio鈥檔 gynyddol at drychineb oni fydd newid mawr yn ein systemau a hynny ar fyrder. Ac eto, ychydig iawn o newid sydd. Mae gwyddonwyr, y rhai sy鈥檔 gwneud penderfyniadau, a gweithredwyr yn gyfarwydd iawn 芒鈥檙 sefyllfa, ac wrth i'r cyhoedd ddod yn fwyfwy ymwybodol o gyflwr y blaned, gall cyd-ddealltwriaeth gynyddol ar ein rhan ni ennyn ymdeimlad mawr o golled. Mae mwy o gyfeiriadau yng nghyfryngau鈥檙 brif ffrwd at bryderon ynghylch yr hinsawdd, galar ecolegol ac emosiynau ynghylch yr hinsawdd. Yn y sgwrs hon, byddaf yn rhannu fy mhrofiadau gyda galar fel gwyddonydd amgylcheddol, a fy ngwaith ymchwil a ffotograffig gydag emosiynau鈥檙 hinsawdd, ac yn archwilio鈥檙 hyn y mae galaru am y blaned yn ei olygu. Mae trafodaethau cyhoeddus yngl欧n 芒鈥檙 ymatebion emosiynol i argyfyngau鈥檙 blaned yn aml yn cael eu gosod mewn naratifau o 'obaith' a 'thranc'. Yma, byddaf yn egluro pam fy mod yn meddwl bod angen golwg fwy cynnil a deallgar o'r emosiynau sy'n codi wrth inni ddod i wybod mwy am gyflwr y blaned - 'gnostalgia' (gnosis, gwybodaeth - algos, poen).
Mae Neal Haddaway yn ffotograffydd ac ymchwilydd amgylcheddol o'r DU. Ar 么l gyrfa 20 mlynedd mewn ymchwil amgylcheddol, trodd at ffotograffiaeth fel cyfrwng ar gyfer newid cymdeithasol. Mae ei waith yn archwilio'r r么l y mae cymdeithas ddynol gyfoes yn ei chwarae yn dinistrio natur, a'r doll emosiynol a achosir gan ymwybyddiaeth wyddonol o'r argyfyngau planedol sydd ar ddod. Mae ei waith wedi'i gyhoeddi mewn papurau newydd (The Guardian, The Evening Standard, The Times) a chylchgronau (Artefact, Next Blue, Anthroposphere), wedi'i gynnwys mewn arddangosfeydd unigol yng nghynhadledd Stockholm50+ y Cenhedloedd Unedig (Mehefin 2022) a'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (Mehefin 2023), ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Lluniau'r Ddaear 2023.
Bydd y sgwrs hon yn apelio at unrhyw un sy'n ymwybodol o'r argyfyngau sy'n wynebu'r blaned, yn enwedig y rhai sy'n profi neu'n chwilfrydig am doll emosiynol ymwybyddiaeth o'r dinistr y mae datblygiad dynol yn ei gael ar y byd.
Dr Japhy Wilson
Prifysgol 秀色直播
Mae鈥檙 papur hwn yn dechrau ar y dybiaeth nad oes ateb i鈥檙 newid yn yr hinsawdd o fewn ffiniau cyfalafiaeth fyd-eang, ac mae鈥檔 gofyn beth sydd gan lafn trefol ein hapocalyps torfol ac anwastad i鈥檞 ddweud wrthym am natur y system, a鈥檙 posibilrwydd o symud y tu hwnt iddi. Mae'n archwilio gwarth cyfalaf trwy ethnograffeg swrealaidd dinas Iquitos yn Amason Periw: metropolis alldynnol sy'n ymgorffori'r hyn y mae Nancy Fraser yn ei alw'n gyfalafiaeth ganibalaidd, ac sydd fel petai'n cadarnhau awgrym David Harvey bod cyfalafiaeth yn rhy warthus i oroesi. Ond o ystyried celfyddyd radical a diwylliant stryd y ddinas mae awgrym bod honiad Harvey yn llai amlwg nag y tybiech chi. Yn hytrach mae buddsoddiad ysol trigolion isel eu statws Iquitos mewn ffyrdd alldynnol o gronni cyfalaf yn dangos o bosib bod cyfalafiaeth yn rhy warthus i fethu. Ar y llaw arall, mae鈥檙 trigolion yn dathlu eu hawl hwythau i ddinas a adeiladwyd ar gefn caethwasiaeth a llofruddiaeth eu hynafiaid trwy ddefodau cythreulig y carnifal, ac maent yn gwyrdroi eu patholeg gwarthus hwythau mewn mathau o wariant torfol, sy鈥檔 awgrymu o bosib nad yw cyfalafiaeth yn ddigon gwarthus, a鈥檌 bod yn rhagdybio gwarth ecstatig gwrthryfelgar comiwnyddiaeth ganibalaidd.
Aaron Thierry
Prifysgol Caerdydd
Er bod miloedd o sefydliadau addysg uwch (SAU) wedi cyhoeddi datganiadau Argyfwng Hinsawdd, mae'r rhan fwyaf o academyddion yn parhau i weithredu yn 么l 'busnes fel arfer'. Fodd bynnag, mae goddefedd o'r fath yn cynyddu'r risg o effeithiau hinsawdd mor ddifrifol fel ei fod yn bygwth dyfalbarhad cymdeithas gyfundrefnol, ac felly Sefydliadau Addysg Uwch eu hunain. Mae'r seminar hon yn archwilio pam mae bwlch gwybyddol-ymarfer camaddasol yn parhau, ac yn gofyn pa gamau y gallai aelodau Sefydliadau Addysg Uwch eu cymryd i ysgogi'r academi.
Gan dynnu ar fewnwelediadau o seicoleg hinsawdd a chymdeithaseg, dadleuwn fod proses o 鈥榳adu wedi鈥檌 threfnu鈥檔 gymdeithasol鈥 yn bodoli ar hyn o bryd o fewn prifysgolion, gan arwain academyddion i brofi cyflwr o 鈥榬ealiti dwbl鈥 sy鈥檔 llesteirio teimladau o atebolrwydd a鈥檙 gallu i weithredu, ac mae hyn yn hunan-atgyfnerthol trwy gynhyrchu 'anwybodaeth lluosog'. Dadleuwn ymhellach fod y prosesau hyn yn fodd i gynnal hegemoni diwylliannol 'busnes fel arfer' a bod hyn yn cael ei waethygu gan y cynnydd mewn neo-ryddfrydoli prifysgolion modern. Bydd dianc rhag y ddeinameg hon yn gofyn am ymdrechion bwriadol i dorri tab诺s, trwy sgyrsiau agored am yr hyn y mae ymateb i argyfwng hinsawdd yn ei olygu i werthoedd a nodau craidd prifysgolion 鈥 ac academyddion unigol.
Jenny Wong
Mae鈥檙 neges ynghylch yr angen i weithredu ar newid hinsawdd yn neges i bawb 鈥 ond mae llawer o鈥檙 ddeialog ynghylch beth i鈥檞 wneud nesaf yn perthyn i 鈥榣unwyr polisi鈥 a chaiff ei chefnogi gan ymchwil sy鈥檔 canolbwyntio ar newid ymddygiad fel ymateb i gymhellion y bwriedir iddynt ysgogi gweithredu a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Prin yw'r ymchwil sy'n edrych ar beth mae pobl yn ei wneud o鈥檜 pen a鈥檜 pastwn eu hunain a pham, heb s么n am yr effaith y gallai hynny ei chael ar amcanion newid hinsawdd yn ehangach. Bydd y seminar hon yn archwilio sut mae pobl, fesul un ac ar y cyd, yn ymateb i bwysau deublyg newid yn yr hinsawdd a chostau byw mewn perthynas 芒鈥檙 effaith ar goetiroedd yng Nghymru a pham bod gwerth archwilio hyn mewn rhagor o fanylder.