Astudiaeth yn canfod bod amrywiadau tymhorol yn yr hinsawdd yn dylanwadu'n fyd-eang ar newidiadau i faint arwyneb llynnoedd
Amrywiadau tymhorol yn yr hinsawdd yw'r rheswm mwyaf yn fyd-eang am newidiadau i faint arwyneb llynnoedd, yn 么l astudiaeth newydd.
Mae gan yr ymchwil, sydd wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol, , 鈥渙blygiadau mawr ar gyfer allyriadau nwyon t欧 gwydr, iechyd ecosystemau a bywoliaeth pobl.鈥
Llwyddodd y cydweithrediad rhwng academyddion o Brifysgol 秀色直播 a Phrifysgol Tsinghua, yn Beijing, Tsieina, i fapio 1.4 miliwn o lynnoedd pob mis rhwng 2001 a 2023. Gwnaed hyn trwy gyfuno setiau data o ddelweddau lloeren, technoleg ddysgu dwfn a chyfrifiadura perfformiad uchel, a oedd yn olrhain sut mae llynnoedd yn crebachu ac yn ehangu yn ystod y tymhorau.
Er bod astudiaethau blaenorol wedi canolbwyntio ar newidiadau hirdymor, mae'r gallu i gynnal asesiadau cynhwysfawr o effaith tymoroldeb wedi ei gyfyngu yn y gorffennol gan brinder data lloeren.
Canfu'r ymchwilwyr fod y llynnoedd a effeithir fwyaf gan dymoroldeb yn ffurfio 66% o arwyneb llynnoedd a 60% o gyfanswm nifer y llynnoedd yn y byd. Mae dros 90% o boblogaeth y byd yn byw mewn rhanbarthau sydd 芒 llynnoedd o'r fath.
Yn ystod digwyddiadau eithafol a achosir gan dymoroldeb, gall yr effeithiau fod yn fwy na maint cyfunol amrywiadau tymhorol rheolaidd a newidiadau hirdymor dros 23 mlynedd, gan ddyblu crebachiad 42% o lynnoedd sy'n crebachu a gwrthbwyso鈥檔 llwyr 45% o lynnoedd sy'n ehangu.

Meddai Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion ym Mhrifysgol 秀色直播, 鈥淓r bod rhai llynnoedd yn dangos tueddiadau hirdymor mwy na thymoroldeb, mae ein dadansoddiad yn dangos y gall effeithiau amodau eithafol a achosir gan dymoroldeb fod yn fwy na鈥檙 effaith gyfunol o dueddiadau hirdymor ac amrywiadau tymhorol nodweddiadol. Mae gan yr amodau eithafol eang a sylweddol hyn oblygiadau dwys ar gyfer allyriadau nwyon t欧 gwydr, iechyd ecosystemau a bywoliaeth pobl.
鈥淕all crebachiadau mawr, sydyn ym maint yr arwyneb ddatgelu gwaddodion ar waelod llynnoedd, a allai arwain at ollyngiadau methan sylweddol. Mae'r amodau eithafol hyn hefyd yn addasu'r hinsawdd leol ac yn herio gwydnwch ecosystemau dyfrol, gan, o bosib, ansefydlogi gweoedd bwyd systemau llynnoedd, newid dosbarthiad cynhyrchwyr cynradd amlwg, a sbarduno newidiadau cyfundrefn ecosystem hollbwysig, a allai fod yn anghildroadwy, ac effeithio ar lesiant pobl yn y broses.
鈥淢ae ein hymchwil yn dangos yr angen am fonitro a dealltwriaeth gynhwysfawr o dymoroldeb, sy鈥檔 hanfodol i wella diogelwch ecosystemau llynnoedd, gwella rheolaeth dros adnoddau d诺r croyw a mireinio amcangyfrifon nwyon t欧 gwydr byd-eang.鈥
Meddai鈥檙 Athro Di Long o Brifysgol Tsinghua, 鈥淢ae llynnoedd yn hanfodol ar gyfer ecosystemau, allyriadau nwyon t欧 gwydr ac adnoddau d诺r. Er gwaethaf hyn, ychydig iawn ydym yn ei ddeall am ddynameg eu harwyneb, yn enwedig tymoroldeb, ar raddfeydd cyfandirol i fyd-eang oherwydd prinder arsylwadau lloeren.
鈥淢ae ein hastudiaeth yn dangos mai tymoroldeb yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar amrywiadau ym maint arwyneb llynnoedd yn fyd-eang. Mae'r canlyniadau hyn yn datgelu dynameg dymhorol a oedd yn gudd o'r blaen ac sy'n hanfodol i ddeall ymatebion systemau d诺r i newidiadau amgylcheddol, diogelu systemau llynnoedd a gwella modelau hinsawdd byd-eang.
Mae'r papur wedi cael cefnogaeth Sefydliad Gwyddorau Naturiol Cenedlaethol Tsieina, Gweinyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg Gweriniaeth Pobl Tsieina, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Ymddiriedolaeth Leverhulme a Gwobr Philip Leverhulme.