Mae Prifysgol Ðãɫֱ²¥ bellach yn safle 64 o ran prifysgolion mwyaf cynaliadwy’r byd a’r nawfed yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Times Higher Education Impact Rankings blynyddol.
Mae hyn yn nodi gwelliant cryf ar safle Prifysgol Ðãɫֱ²¥ yn 77 ar y rhestr bydol yn 2024, dyma’r tro cyntaf mae’r brifysgol wedi’i henwi yn y deg uchaf ym Mhrydain.
Mae’n gyflawniad hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried bod 2,318 o brifysgolion wedi'u cofrestru yn y system eleni, sef y nifer uchaf erioed.
Y Times Higher Education Impact Rankings yw’r unig dabl perfformiad byd-eang sy’n asesu prifysgolion yn ôl Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) y Cenhedloedd Unedig ac sy’n defnyddio tystiolaeth fanwl i asesu sefydliadau mewn pedwar maes: ymchwil, stiwardiaeth, allgymorth ac addysgu.
Am y tro cyntaf, cyflwynodd Brifysgol Ðãɫֱ²¥ ddata ar gyfer 16 allan o'r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy, sy’n gynnydd ar 10 yn 2024 – y cyflwyniad mwyaf cynhwysfawr y mae'r brifysgol wedi'i wneud hyd yn hyn.
Mae cynaliadwyedd yn werth craidd ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥, ac mae’r cynnydd yn ein safle byd-eang a'n cyflwyniad ehangach o Nodau Datblygu Cynaliadwy’n adlewyrchu ymroddiad ein staff, myfyrwyr a phartneriaid cymunedol. Yn ogystal â chydnabod ein cynnydd, mae’r canlyniadau hyn hefyd yn tynnu sylw at y meysydd lle gallwn - a lle byddwn - yn gwneud mwy.

Mae’n anhygoel meddwl ein bod yn un o’r prifysgolion mwyaf cynaliadwy yn y byd. Nid yw hyn oherwydd ein bod wedi taflu llwyth o arian at y mater yn unig – mae oherwydd bod pob un ohonom ym Mhrifysgol Ðãɫֱ²¥ yn gwneud llawer o bethau da bob dydd; mae’n debyg heb hyd yn oed sylweddoli. Rydym yn brifysgol wych sy’n gwneud gwaith gwych, ac rwy’n credu y dylai pob un ohonom fod yn falch iawn o hynny.

Mae rhestrau 2025 yn dangos cynnydd nodedig mewn sawl Nod Datblygu Cynaliadwy unigol, gyda Phrifysgol Ðãɫֱ²¥ wedi'i rhestru fel a ganlyn:
- Safle 12 yn y byd (allan o 973 o sefydliadau) o ran Nod Datblygu Cynaliadwy 12: Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol
- Safle 15 ar y cyd (allan o 1,261) o ran Nod Datblygu Cynaliadwy 10: Llai o Anghydraddoldeb
- Safle 65 (allan o 1,350) o ran Nod Datblygu Cynaliadwy 8: Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
- Safle 47 (allan o 711) o ran Nod Datblygu Cynaliadwy 14: Bywyd o dan y Dŵr
- Safle 15 ar y cyd (allan o 1,261) o ran Nod Datblygu Cynaliadwy 15: Bywyd ar y Tir
I weld rhagor o wybodaeth am fentrau cynaliadwyedd Prifysgol Ðãɫֱ²¥ a'i pherfformiad yn y Times Higher Education Imapct Rankings, ewch i: www.bangor.ac.uk/cynaliadwyedd